Sam Warburton yw’r Cymro cyntaf i fod yn gapten ar y Llewod ar daith ers 36 mlynedd.
Cyhoeddodd Warren Gatland ei ddewis yn gapten mewn cynhadledd i’r wasg y bore ma, a chyhoeddodd Andy Irvine, rheolwr y daith, enwau 37 aelod y garfan.
Mae’r garfan yn cynnwys 15 Cymro. Mae pawb a ddechreuodd dros Gymru yn erbyn Lloegr yn y Chwe Gwlad wedi eu dewis, ar wahân i’r maswr Dan Biggar.
Mae un Cymro na chwaraeodd yn y Chwe Gwlad wedi ei gynnwys – y blaenasgellwr Dan Lydiate sy’n adennill ei ffitrwydd ar ôl anaf. Mae ambell i syndod arall, yn arbennig cynnwys bachwyr Lloegr Dylan Hartley a Tom Youngs cyn y Gwyddel Rory Best a’r bachwr o Ddyffryn Tywi, Ken Owens.
Nid oes lle ychwaith i gapten Lloegr Chris Robshaw.
Mae prop Lloegr, Mako Vunipola , gafodd ei eni yn Seland Newydd i deulu o Tonga a’i fagu yng nghymoedd Gwent, ar yr awyren i Awstralia.
Mae taith y Llewod yn dechrau ar Fehefin 1 yn Hong Kong, gyda 10 gêm – a thair gêm brawf – i ddilyn yn Awstralia.
Carfan Llewod 2013
Cefnwyr: Leigh Halfpenny, Stuart Hogg, Rob Kearney
Asgellwyr: Tommy Bowe, Alex Cuthbert, Sean Maitland, George North
Canolwyr: Jonathan Davies, Brian O’Driscoll, Jamie Roberts, Manu Tuilagi
Maswyr: Owen Farrell, Jonnie Sexton
Mewnwyr: Connor Murray, Mike Phillips, Ben Youngs
Props: Dan Cole, Cian Healy, Gethin Jenkins, Adam Jones, Matt Stevens, Mako Vunipola
Bachwyr: Dylan Hartley, Richard Hibbard, Tom Youngs
Ail-reng: Ian Evans, Richie Gray, Alun-Wyn Jones, Paul O’Connell, Geoff Parling,
Rheng-ôl: Tom Croft, Toby Faletau, Jamie Heaslip, Dan Lydiate, Sean O’Brien, Justin Tipuric, Sam Warburton (capten)