Sam Warburton
Mae disgwyl i amryw o Gymry fod yn aelodau o garfan y Llewod ar gyfer taith yr haf i Awstralia.
Mae Warren Gatland yn cyhoeddi ei garfan yn hwyrach y bore ma, ac mae’n bosib y bydd y tîm cyfan a chwalodd Lloegr yn y Chwe Gwlad yn cael eu dewis.
Sam Warburton yw’r ffefryn clir i fod yn gapten ar y Llewod, a fo fyddai’r Cymro cyntaf i fod yn gapten ers Phil Bennett yn 1977.
Mae’n debygol y bydd Warren Gatland yn dewis carfan fawr o 38 o chwaraewyr, ac mae disgwyl y bydd rhwng 14 ac 17 ohonyn nhw’n Gymry.
Mae’r chwaraewyr ar bigau’r drain hefyd gan nad ydyn nhw’n gwybod pwy sydd yn y garfan cyn y cyhoeddiad.
Mae Gatland eisoes wedi dewis y Cymry Rob Howley a Neil Jenkins i fod yn gyd-hyfforddwyr ar y daith.
Mae taith y Llewod yn dechrau ar Fehefin 1 yn Hong Kong, gyda 10 gêm – a thair gêm brawf – i ddilyn yn Awstralia.