Mae angen “trafodaeth ddeallus” am sefydlu tîm criced i Gymru, yn ôl Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad.
Cafodd deiseb ei chyflwyno gan Matthew Bumford o Gaerdydd, ag arni 187 o enwau.
Awgrymodd y Pwyllgor, ar sail barn Criced Cymru, Clwb Criced Morgannwg ac unigolion o’r byd criced yng Nghymru, y dylid ceisio barn y byd criced trwy ymgynghoriad cyn gwneud penderfyniad i gefnogi neu wrthod y cais.
Ond dywedon nhw mai penderfyniad yr awdurdodau criced fyddai sefydlu’r tîm neu beidio.
Mae Criced Cymru a Chlwb Criced Morgannwg yn gwrthwynebu’r cais ar sail pryderon am hollti Bwrdd Criced Lloegr.
O dan y rheolau presennol, dim ond un tîm all cynrychioli bwrdd criced y wlad, ac fe allai cynlluniau i sefydlu ail dîm olygu gwahanu’n llwyr oddi wrth Fwrdd Criced Lloegr, a allai hefyd beryglu safle Morgannwg ymhlith Pencampwriaeth Siroedd Lloegr.
‘Hunaniaeth genedlaethol’
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, William Powell AC: “Wrth i’r Pwyllgor ystyried y ddeiseb hon, gwelodd angerdd a chefnogaeth mewn perthynas â chriced yng Nghymru y gellir eu cymharu â’r gefnogaeth a roddir i rai o’r prif dimau ym myd criced prawf, fel tîm Seland Newydd.
“Wrth wraidd y ddeiseb mae hunaniaeth genedlaethol a’r gred nad yw Cymru’n cael ei gweld ar y llwyfan rhyngwladol, gan mai dim ond Lloegr y mae’r cefnogwyr yn ei gweld yn cael ei chynrychioli ar hyn o bryd.
“Mae’n deimlad sy’n deillio o rywbeth mor syml ag acronym Bwrdd Criced Cymru a Lloegr – ECB – nad yw i’w weld i gynnwys Cymru.
“Wrth archwilio a yw’n bosibl ac yn briodol sefydlu tîm cenedlaethol i Gymru, mae’r Pwyllgor yn cydnabod y rhwystrau mawr sy’n bodoli.
“Rydym yn gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn fan cychwyn ar gyfer cynnal trafodaeth ddeallus sy’n ystyried barn a syniadau pawb sy’n cefnogi criced ar lefel broffesiynol, sir ac ar lefel tîm pentref.
“Dylai’r safbwyntiau hyn gyfrannu at ganfod y dull gorau o ymdrin â’r mater a phenderfynu ar y ffordd ymlaen.”