Mae’r Cymro Michael White yn dechrau ar sesiwn olaf y dydd ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd, 6-2 ar ei hôl hi yn erbyn Ricky Walden.

Collodd y dyn 21 oed o Gastell-nedd bedair ffrâm gyntaf yr ornest, cyn taro nôl ac ennill y ddwy ffrâm nesaf.

Gorffennodd sesiwn y prynhawn gyda rhediad o 113 i Walden.

Y cyntaf i ennill 13 ffrâm fydd yn symud ymlaen i’r rownd gynderfynol, lle bydd yn wynebu naill ai Ding Junhui neu Barry Hawkins.

Bydd sesiwn heno’n dechrau am 7 o’r gloch.