April Jones
Mae’r rheithgor yn achos dyn sydd wedi’i gyhuddo o gipio a llofruddio April Jones o Fachynlleth, wedi tyngu llw.
Mae Mark Bridger, 47, yn gwadu iddo gipio a’i llofruddio’r ferch 5 oed.
Cafodd y rheithgor o naw dynes a thri dyn eu dewis y bore ma ac mae disgwyl i’r achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddechrau’n ddiweddarach heddiw, pan fydd yr erlyniad yn cyflwyno’u hachos.
Diflannodd April Jones wrth iddi chwarae ar ei beic ger ei chartref ar Hydref 1 y llynedd.
Dydy’r heddlu ddim wedi dod o hyd i’w chorff.
Ymunodd cannoedd o bobol yn y chwilio am April, oedd yn dioddef o barlys yr ymennydd.