Paul Flynn
Mae AS Gorllewin Casnewydd wedi dweud fod colli 400 o swyddi gyda’r contractwr dur Rowecord yn “ddifrifol dros ben” i’r ddinas.

Dywedodd Paul Flynn AS fod Casnewydd wedi colli miloedd o swyddi yn y diwydiannau dur ac adeiladu yn y blynyddoedd diwethaf a bod y cyhoeddiad fod Rowecord yn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr heddiw yn ergyd bellach.

“Roedd Rowecord wedi bod yn llwyddiannus dros ben ac wedi gwneud gwaith o ansawdd uchel,” meddai Paul Flynn.

“Y broblem ydy’r economi. Mae yna ormod o gyni ar hyn o bryd ac os yw cwmni’n colli arian ar un prosiect yna nid yw’n gallu adennill yr arian ar y prosiect nesaf, fel oedd yn digwydd o’r blaen.

“Does dim swyddi coler las fel hyn ar gael yng Nghasnewydd. Rhyw 1,500 sydd ar ôl yn y diwydiant dur yma ble roedd 9,000.”

Adeiladau adnabyddus

Roedd Rowecord wedi cyfrannu tuag at godi nifer o adeiladau adnabyddus, gan gynnwys Stadiwm Dinas Caerdydd, Parc y Scarlets, y pwll nofio Olympaidd yn Llundain, a phontydd cerdded trawiadol ym marina Abertawe a thros yr afon Tywi yng Nghaerfyrddin.

Mae undeb Unite wedi mynegi syndod fod Rowecord wedi penderfynu mynd i ddwylo’r gweinyddwyr yn hytrach na derbyn cynnig Llywodraeth Cymru o gymorth ariannol.

“Roedd Llywodraeth Cymru wedi cynnig cymaint ag y gallan nhw dan y rheolau Ewropeaidd, ond doedd hynny ddim yn ddigon,” meddai Paul Flynn.

“Gobeithio gall y gweinyddwyr ddod o hyd i brynwr ond mae’r un problemau ag sydd gan Rowecord gan gwmnïau mawr eraill yn y maes.”