Mae David Cameron wedi ymosod ar lywodraeth Cymru, trwy eu cymharu â’r sioe bypedau, ‘The Muppet Show’.

Tra bod gweddill y byd yn cyflymu ac yn gwneud camau breision tua’r dyfodol, mae’r blaid Lafur yn benderfynol o dynnu Cymru i lawr, meddai yn ei araith i gynhadledd wanwyn ei blaid yn Stadiwm Liberty, Abertawe, heddiw.

“Maen nhw wedi rhoi cyfundrefn addysg sy’n dal pobol ifanc yn ôl,” meddai. “Sustem gynllunio sy’n dal y byd adeiladu’n ei ôl. Biwrocratiaeth ddiddiwedd sy’n dal busnesau’n eu holau…

“Ac mae hyn i gyd yn llusgo Cymru am yn ôl hefyd,” meddai David Cameron.

“Fe dynnon nhw opera sebon fwya’ poblogaidd cymru, Pobol Y Cwm, oddi ar y tonfeddi oherwydd nad oedd un o’r cymeriadau’n cytuno gyda’u polisau. Fedrwn innau ddim credu’r peth chwaith!

“Y peth yw, mae’r holl lywodraeth Lafur yn ymddwyn fel opera sebon. Gweinidog Addysg sy’n cyfadde’ eu bod wedi methu rhai pethau. Gweinidog Busnes sy’n cyfadde’ ei bod yn ffan o Karl Marx.

“Mae angen yr A-Team ar Gymru, ond yr hyn sydd ganddi yw’r Muppet Show. Ond, tra bod Llafur yn gwneud llanast, r’yn ni’n sortio pethau allan.

“R’yn ni’n cefnogi pobol sy’n gweithio’n galed yng Nghymru… yn torri biliau treth incwm dros filiwn o bobol… ac yn dweud nad oes raid i 130,000 o bobol dalu treth o gwbwl. 

“R’yn ni’n cyflymu cysylltiadau band eang, ac yn trydaneiddio’r rheilffordd. Ac ydyn, r’yn ni’n gwneud gwelliannau i’r M4.”