Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi diolch i Dorïaid Cymru am weithio mor galed “fel tîm” i wneud yn siwr fod y blaid yn ennill tir yng Nghymru.

Wrth annerch Cynhadledd y Ceidwadwyr yng Nghymru yn Stadiwm Liberty, Abertawe, heddiw, meddai:

“Rydyn ni wedi ennill tir oherwydd i bobol fel chi drin y tir hwnnw: trwy ganfasio, ymgyrchu a rhannu taflenni.

“Dyw bod yn Geidwadwr yng Nghymru ddim yn hawdd bob amser,” meddai David Cameron wedyn.

“R’ych chi’n cymryd tipyn o fflac. Ond r’ych chi hefyd yn mynd allan yna a gweithio oherwydd yr hyn ydych chi’n ei gredu.

“Tîm yw hwn – o Andrew RT Davies yng Nghaerdydd, i David Jones a Stephen Crabb yn San Steffan… o’r cysylltiadau yn Aberconwy i Fro Morgannwg… o’r cynghorwyr yn Sir Fynwy, i Glybiau Ceidwadol y Cymoedd.

“Tîm yw hwn. Tîm y Ceidwadwyr. Dw i byth yn anghofio hynny. Rwy’n ddiolchgar am hynny, ac rwy’ eisiau dweud ‘Diolch’ mawr, mawr, iawn.”