Mae S4C wedi cyhoeddi mai Y Gwyll fydd enw ei drama dditectif newydd.

Bydd y gyfres – sy’n cael ei ffilmio yng Ngheredigion ar hyn o bryd – yn cael ei darlledu am y tro cyntaf ar S4C ym mis Tachwedd eleni, gyda’r fersiwn Saesneg, Hinterland, yn cael ei darlledu ar BBC Cymru Wales yn 2014, gyda darllediadau yn dilyn ar BBC4 a DR yn Nenmarc.

Mae’r  gyfres yn cael ei ffilmio yng Ngheredigion ar hyn o bryd gyda Richard Harrington ymhlith y cast.

Bydd brandio ar-sgrin holl fersiynau’r gyfres yn cynnwys y teitlau Cymraeg a Saesneg. Mae’r penderfyniad yma yn sicrhau lle i ddwy iaith Cymru ar lwyfan rhyngwladol, medd S4C.

Platfform i’r iaith

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys, “Mae’r gyfres hon yn hwb i ddelwedd Cymru ar lwyfan cynhyrchu teledu yn rhyngwladol.

“Mae’r cyffro ynghylch y rhaglen yn wych i S4C ac i Gymru. Ond rydyn ni hefyd am iddi fod yn blatfform i’r iaith Gymraeg, a chodi ymwybyddiaeth am yr iaith yn rhyngwladol.

“Mae ymgorffori’r Gymraeg yn y brand rhyngwladol yn cryfhau hunaniaeth y gyfres ac yn rhoi platfform i’r iaith yng nghalon y cynhyrchiad uchelgeisiol hwn. Mae darlledwyr wrthi’n edrych ar y gyfres, ac ar wahân i gryfder y straeon, maen nhw wrth eu bodd gyda diwylliant ac iaith unigryw nad oedden nhw’n ymwybodol ohonyn nhw o’r blaen.”

Dathliad

Dywedodd Ed Thomas, Cynhyrchydd Gweithredol gyda chwmni cynhyrchu Fiction Factory: “Rydyn ni wrth ein bodd bod ein partneriaid yn S4C, ALL3MEDIA International a’r BBC yn rhannu ein hymrwymiad i amrywiaeth diwylliannol ac ieithyddol Cymru. Cafodd y gyfres ei chreu fel dathliad o ddiwylliant, talent ac ymdrech Cymru ac rydyn ni wedi cynhyrfu gyda’r datblygiad diweddaraf yma.”