Fe fydd dwsinau o reolwyr trenau yn Abertawe yn cynnal streic 24 awr mewn ffrae ynglŷn â diswyddiad un o’u cyd-weithwyr.
Fe fydd aelodau Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) gyda chwmni First Great Western yn gadael eu gwaith am 8yb fory.
Mae’r undeb wedi rhybuddio y bydd y streic gan y staff yn effeithio gwasanaethau.