Fe allai hyd at 300 o swyddi newydd gael eu creu mewn lladd-dy yn Llangefni, Ynys Môn.
Cyhoeddodd perchnogion newydd y lladd-dy, 2 Sisters, eu bod nhw’n bwriadu dechrau cyfnod ymgynghori 45 niwrnod gydag undeb Unite er mwyn cyflwyno ail shifft yn y safle.
Roedd 2 Sisters wedi prynu’r lladd-dy yn Llangefni gan gwmni Vion ym mis Mawrth gan ddiogelu cannoedd o swyddi.
Daw’r newyddion ar ôl i Welsh Country Foods gau eu lladd-dy yn Y Gaerwen bythefnos yn ôl ar ôl methu dod o hyd i brynwr, gan olygu bod 300 yn colli eu swyddi. Y gobaith yw y bydd rhai o’r gweithwyr yn cael eu cyflogi yn y lladd-dy yn Llangefni.
Ond er gwaetha’r datblygiad calonogol, mae 2 Sisters wedi rhybuddio eu bod yn dal i wneud colledion a bod y sefyllfa economaidd yn “heriol”.
‘Newyddion da’
Dywedodd Ieuan Wyn Jones, AC Plaid Cymru yn Ynys Môn: “Rydw i’n croesawu’n fawr y posibilrwydd o greu mwy o swyddi yn y safle prosesu cywion ieir yn Llangefni.
“Mae’n bwysig iawn ein bod ni rwan yn gweithio hefo’r cwmni a’r Llywodraeth i sicrhau fod y buddsoddiad yn cael ei wneud er mwyn creu y swyddi newydd yno. Mae’n newyddion da, yn enwedig yn y cyfnod anodd hwn yn dilyn colli swyddi yn Welsh Country Foods yn y Gaerwen.”