Lee-Anna Shiers
Mae disgwyl i’r barnwr yn achos dynes 43 oed sydd wedi’i chyhuddo o gynnau tân a laddodd pum aelod o’r un teulu ym Mhrestatyn, ddechrau crynhoi’r achos heddiw.

Bu farw Lee-Anna Shiers, 20 oed, ei nai pedair oed Bailey a’i nith ddwy oed Skye yn y tân ym Mhrestatyn ar Hydref 19.

Bu farw mab 15 mis oed Lee-Anna Shiers, Charlie a’i dad, Liam Timbrell, 23 oed yn ddiweddarach yn yr ysbyty.

Mae Melanie Smith wedi gwadu pum cyhuddiad o lofruddio.

Smith ‘yn ddig’ medd yr erlyniad

Dywedodd yr erlyniad wrth Lys y Goron Yr Wyddgrug ar ddechrau’r achos fod y tân wedi cael ei ddechrau’n fwriadol gan Melanie Smith a’i bod hi wedi bod yn yfed yn drwm ar y diwrnod.

Clywodd y llys ei bod hi wedi bod yn ymddwyn yn ymosodol tuag at Lee-Anna Shiers yn y ddeufis cyn y tân ac wedi arddangos cenfigen tuag ati.

Clywodd y llys ei bod hi wedi sôn droeon am losgi’r tŷ.

Dywedodd yr erlynydd Ian Murphy QC fod Melanie Smith yn “arbennig o ddig” fod Lee-Anna Shiers yn cadw cadair wthio ei mab Charlie yn y cyntedd i’r fflatiau, a’i bod hi’n “swnllyd” yn y fflat fyny grisiau ac yn anniben.

Gwadodd Melanie Smith ei bod hi erioed wedi bygwth dechrau tanau, gan ddweud y byddai unrhyw un sy’n bygwth hynny “wedi colli ei bwyll.”

Roedd hi hefyd yn gwadu fod pram Charlie wedi achosi trafferth erioed.

Dywedodd Melanie Smith ei bod hi wedi cwyno i’r landlord am Lee-Anna Shiers o achos materion yn ymwneud â glendid y cyntedd ac olion sigaréts.

Cyfaddefodd Melanie Smith ei bod hi’n gaeth i alcohol a dywedodd ei bod hi wedi cwyno unwaith yn uniongyrchol i Shiers ynglŷn â stad y biniau.