Bethan Rhys Roberts a Rhun ap Iorwerth
Mae rhaglen Newyddion S4C yn symud i 9 o’r gloch heno mewn newid sy’n cael ei alw’n “ddatblygiad hanesyddol” gan y sianel.

Bydd y rhaglen yn parhau i gael ei chynhyrchu gan BBC Cymru a’i chyflwyno gan ddau wyneb cyfarwydd, Rhun ap Iorwerth a Bethan Rhys Roberts. Bydd gohebwyr lleol yn adrodd o wahanol rannau o Gymru.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Mi fydd amser hwyrach y bwletin yn golygu y byddwn yn gallu edrych yn ehangach ar straeon mawr y dydd.

“Mae Newyddion 9 yn mynd i fod yn unigryw ar draws y prif sianeli teledu. I unrhyw un, yn siarad Cymraeg ai peidio, sydd isio golwg unigryw ar y dydd yng Nghymru a thu hwnt – S4C ydy’r lle i fod.”

Bydd bwletinau eraill ar S4C am 1, 2.55, a 6.30, cyn y brif  raglen am 9yh.

Yn ei golofn yng nghylchgrawn Golwg mae cyn-bennaeth rhaglenni newyddion Cymraeg y BBC, Gwilym Owen, wedi dweud “hip hip hwre” i’r newydd fod y “gwallgofrwydd teledol” o ddarlledu prif raglen newyddion S4C am hanner awr wedi saith yn dod i ben.