Mae Cadeirydd y Ceidwadwyr ar Ynys Môn yn poeni y bydd pleidlais etholwyr asgell dde’r ynys yn cael eu rhannu rhyngddyn nhw ac UKIP.

Ar Fai 2 mae etholiadau lleol yn cael eu cynnal yn Ynys Môn, flwyddyn yn hwyrach na phob sir arall oherwydd trafferthion y cyngor tros y blynyddoedd.

Ond wfftio barn y Ceidwadwyr y mae Nathan Gill ar ran UKIP, sy’n sefyll etholiad yn Llangefni.

Oherwydd bod 11 o wardiau mawr newydd wedi eu creu ar gyfer y sir gyfan a’r rheiny’n rhai gyda sawl aelod, mae’n dadlau y bydd UKIP yn denu digon o bleidleisiau i ffurfio grŵp yn siambr Cyngor Môn.

“Rydan ni wastad wedi dweud ein bod yn fodlon mynd i glymblaid efo unrhyw un – mi fydden ni’n gallu bod yn gyfrifol am gydbwysedd grym,” meddai Nathan Gill.

Mae Plaid Cymru ar Ynys Môn wedi gwrthod y syniad o gydweithio gyda’r blaid asgell dde, ond mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud y byddan nhw’n “cysidro pob opsiwn,” tra bod Llafur wedi dweud y byddan nhw’n clymbleidio “os oes rhaid.”

Am restr lawn o’r ymgeiswyr fydd yn cystadlu’r etholiad Cyngor Sir yn eich ward chi, ewch i: www.ynysmon.gov.uk/etholiadaucyngorsir

Stori: Siân Williams. Rhagor yn rhifyn diweddaraf Golwg