Leanne Wood
Mae angen i awdurdodau lleol roi hwb i economi Cymru drwy wario’n lleol medd arweinydd Plaid Cymru.
Yn ôl Leanne Wood mae gormod o arian trethdalwyr Cymru yn mynd i gwmnïau sydd y tu hwnt i Glawdd Offa.
Mae cyrff cyhoeddus Cymru yn gwario tua £4 biliwn bob blwyddyn ar nwyddau a gwasanaethau ond mae cyrff wedi cael eu beirniadu am beidio ymdrechu digon i wario yng Nghymru.
Dywedodd Leanne Wood y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn anelu at wario dros 75% o’i chyllid contractau yng Nghymru, gan greu tua 46,000 o swyddi.
“Trwy sicrhau fod arian cyhoeddus Cymru yn cael ei wario yn economi Cymru yna gallwn ni greu a chefnogi cyflogaeth,” meddai Leanne Wood.
Busnesau bach
Mae Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol mewn grym yng Nghymru ond dywedodd Leanne Wood fod angen gweithredu pellach, a’i gwneud hi’n haws i fusnesau bach ymgeisio am gytundebau llywodraeth leol.
“Mae llawer o fusnesau wedi dweud wrthon ni fod angen symleiddio’r broses gynnig, ac er mwyn hynny rydym ni’n dadlau dros rannu’r cytundebau yn llai o faint, ar lefel llywodraeth leol yn arbennig.”
Y llynedd roedd adroddiad gan John McClelland, gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, wedi dod i’r casgliad fod llawer o gynnydd wedi ei wneud yn y maes caffael ond nad oedd pob corff cyhoeddus yn gweithredu polisi o gaffael o fewn Cymru.