Ysbyty Treforys
Mae disgybl yn Ysgol Uwchradd Tregaron yn yr ysbyty ar ol cael ei daro gan gar ar groesfan ger yr ysgol.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar Heol Llambed yn Nhregaron am 11 y bore ma wrth i’r disgybl fynd o un safle’r ysgol i’r llall.

Mae’n debyg ei fod e’n ddisgybl ym mlwyddyn 8 yn yr ysgol.

Aed ag e mewn hofrennydd i Ysbyty Treforys, Abertawe.

Dywedodd prifathrawes yr ysgol, Anna Williams: “Mae’r bachgen yn iawn. Mae’n eistedd lan ar y ward yn yr ysbyty ac yn siarad.”

Cafodd yr heol ei chau yn dilyn y digwyddiad.