Caerdydd 0–0 Charlton
Mae Caerdydd yn dîm Uwch Gynghrair o’r diwedd yn dilyn gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Charlton yn Stadiwm y Ddinas nos Fawrth.
Pwynt yn unig oedd ei angen ar Gaerdydd i sicrhau eu bod yn gorffen y tymor yn nau uchaf y Bencampwriaeth, ac er mai gêm ddi sgôr a di fflach a gafwyd doedd y cefnogwyr yn poeni dim am hynny wrth iddynt lifo ar y cae i ddathlu wedi’r chwiban olaf.
Ychydig o gyfleoedd a gafodd y ddau dîm yn yr hanner cyntaf gyda Craig Bellamy yn methu un o gyfleoedd gorau’r tîm cartref.
Methodd Michael Morrison gyfle euraidd i Charlton yn gynnar yn yr ail gyfnod ac er i Craig Noone rwydo yn y pen arall, ni chafodd y gôl ei chaniatáu oherwydd camsefyll.
Ond doedd fawr o ots am hynny pan ddaeth y chwiban olaf, yn enwedig felly gan i Hull a Watford golli pryn bynnag.
Mae’r canlyniad yn cadw Caerdydd ar y brig, dri phwynt ar ddeg yn glir o’r trydydd safle gyda dim ond tair gêm ar ôl. Gall yr Adar Gleision ennill y Bencampwriaeth gydag un buddugoliaeth yn y gemau hynny.
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, McNaughton, Taylor, Turner, Barnett, Kim Bo-Kyung, Noone (Smith 71′), Gunnarsson, Mutch, Gestede, Bellamy
.
Charlton
Tîm: Hamer, Morrison, Wiggins, Solly, Dervite, Hughes (Gower 81′), Jackson, Pritchard (Green 88′), Harriotts, Kermorgant, Fuller (Obika 81′)
Cerdyn Melyn: Fuller 62’
.
Torf: 26,338