Mae S4C wedi cytuno ar bartneriaeth newydd gyda chynllun ‘LIFE’ yn Abertawe i alluogi pobl ifanc yr ardal i ddatblygu a marchnata ap dwyieithog.

Mae cynllun LIFE yn Abertawe yn brosiect newydd sy’n cyfuno technolegau digidol ac addysg.  Nod y prosiect yw rhannu sgiliau dros y cenedlaethau a mentora pobl ifanc mewn sectorau fel diwydiant, masnach ac addysg.

Bydd 15 o bobl ifanc yn cael eu dewis i gymryd rhan yn Academi Talent LIFE sy’n cael ei gynnal ar gampws Prifysgol Abertawe ar y cyd â Technocamps ym mis Mai eleni. Bydd y bobl ifanc yn cael eu dewis yn dilyn deuddeg wythnos gychwynnol o gwrs codio a datblygu ap gyda Technocamps a LIFE.

Mae’r disgyblion, fydd yn dod o ysgolion Cymraeg a Saesneg, wedi eu hadnabod fel unigolion talentog a medrus iawn yn y maes hwn.

Ap dwyieithog

Mae S4C wedi cytuno i gefnogi dyluniad a datblygiad ap dwyieithog a’i gwneud hi’n bosib i’w lawr lwytho ar draws y byd.  Bydd hwn yn gyfle  i ddisgyblion yr Academi ddychwelyd i’w hysgolion fel arweinwyr digidol ac i rannu eu harbenigedd.

Dywedodd Simon Pridham, Rheolwr Cynllun LIFE a Phrifathro Gweithredol Ysgol Gynradd Casllwchwr: “Heb gefnogaeth partneriaid tebyg i S4C, ni fyddai LIFE yn gallu cynnig y cyfleoedd yma i ddisgyblion a dysgwyr dros y ddinas a bydd datblygu apiau dwyieithog yn ddiwedd gwych i’r bartneriaeth allweddol yma.

“Gyda chymorth S4C, mae cynllun LIFE yn bwriadu gwneud gwahaniaeth adeiladol yng Nghymru Ddigidol”

Meddai Rheolwr Digidol S4C, Huw Marshall: “Mae S4C yn cydnabod pa mor bwysig yw cefnogi datblygiad sgiliau digidol o’r crud, yn enwedig trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

“Mae S4C yn ymrwymedig i ddatblygu technolegau newydd fydd yn cyfoethogi tirwedd ddigidol Cymraeg fwy ac yn ein helpu ni fel sianel i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.”