Mae pennaeth Dan-yr-Ogof yng Nghwm Tawe wedi bygwth erlyn dynion a menywod tywydd sy’n darlledu rhagolygon negyddol.

Dywed Ashford Price fod y rhagolygon gwael yn difetha’i fusnes, a’u bod nhw’n aml yn anghywir yn y pen draw.

Mae’n honni bod y rhagolygon negyddol yn costio miliynau o bunnoedd i fusnesau Prydain bob blwyddyn.

Rhybuddiodd eu bod nhw hefyd yn peryglu swyddi ymhlith pobol ifanc, a bod llai o swyddi’n cael eu creu o’u herwydd.

Penderfynodd nifer fawr o bobol oedd wedi bwcio i fynd i’r atyniad beidio â mynd ar Ddydd Gwener y Groglith oherwydd rhagolygon o eira.

Ond roedd hi’n ddiwrnod heulog, meddai Ashford Price.

Roedd hynny’n dilyn haf gwlyb iawn yn 2012.

Oherwydd y rhesymau hyn, mae’r gŵr busnes wedi penderfynu ceisio cyngor cyfreithiol yn y gobaith o annog dynion a menywod tywydd i sicrhau bod eu rhagolygon yn fwy cywir ac yn llai negyddol.

“Mae pennu pwy sy’n darogan hyn yn y lle cyntaf yn beth anodd iawn i’w wneud.

“Ond mae pobol yn gwrando’n astud ar ragolygon y tywydd ac yn gwneud trefniadau ar eu sail nhw.

Iawndal

“Mae cost uchel petrol a’r dirwasgiad yn cyfyngu’r hyn y gall pobol ei wario ac os yw’r rhagolygon yn addo tywydd gwael, yna maen nhw’n penderfynu aros adre.

“Mae rhai o’r bobol sy’n darogan y tywydd mor negyddol.

“Ond rhagolygon yn unig ydyn nhw. Yng Nghymru fe all y tywydd fod yn wahanol o gwm i gwm 15 milltir i ffwrdd.”

Mae e wedi galw am iawndal i gwmnïau os yw rhagolygon yn anghywir.

“Mae twristiaeth yn ddiwydiant enfawr yng Nghymru, mae’n cynhyrchu £9 miliwn y dydd.

“Dydw i ddim yn fodlon cael torpido trwy fy musnes bob tro mae yna wyliau ar y gorwel.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd nad oedd disgwyl eira yn ardal Cwm Tawe ar Ddydd Gwener y Groglith.

“Mae’r cyhoedd yn ymddiried yn y Swyddfa Dywydd i roi’r arweiniad gorau posib am y tywydd ac rydym yn adrodd am y tywydd yn union fel y mae e.

“Mae ymchwil yn dangos bod y rhagolygon yn gywir chwe niwrnod allan o saith.”