Alpe d'huez
Mae Prydeiniwr ymhlith tri o bobol sydd wedi cael eu lladd ar ôl i fws wyro oddi ar y ffordd yn Alpau Ffrainc.

Roedd y bws yn cludo teithwyr adref o’u gwyliau yng ngwersyll sgïo Alpe d’Huez tua 2pm.

Bu’n teithio ar ffordd fynyddig serth sy’n cynnwys 21 o droeon peryglus.

Yn ôl yr adroddiadau, roedd brêcs y bws wedi methu cyn i’r cerbyd wyro oddi ar y ffordd a chwympo dros ddibyn clogwyn.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Heddlu Grenoble fod o leiaf un Prydeiniwr wedi marw.

Ychwanegodd nad ydyn nhw’n gwybod eto sut y digwyddodd y ddamwain.

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Dramor Prydain eu bod nhw’n cydweithio gyda’r awdurdodau lleol.

Does dim sicrwydd eto a oedd y criw yn teithio gyda chwmni gwyliau tramor.