Yr Arlywydd Barack Obama
Mae’r FBI a’r heddlu yn America yn ceisio darganfod pwy fu’n gyfrifol am osod bomiau a ffrwydrodd yn ystod marathon Boston ddoe, gan ladd tri ac anafu o leiaf 176.

Mae 17 o bobl yn parhau mewn cyflwr difrifol.

Nid oes unrhyw un wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad ddoe ond mewn anerchiad o’r Ty Gwyn prynhawn ma fe gyfeiriodd yr Arlywydd Barack Obama at yr ymosodiad fel “gweithred derfysgol.”

Dywedodd Barack Obama nad ydyn nhw’n gwybod ar hyn o bryd pwy oedd yn gyfrifol am osod y ddau fom, na pham. Ond mynnodd y bydd y rhai sy’n gyfrifol am y “weithred lwfr” yn cael eu cosbi’n llym.

Mae’r Taliban ym Mhacistan wedi gwadu unrhyw ran yn yr ymosodiad.

Yn y cyfamser mae Llywodraethwr Democrataidd Massachussets, David Patrick, wedi dweud mai dim ond dau fom gafodd eu darganfod yn Boston ddoe yn dilyn adroddiadau bod dyfais arall wedi cael ei difa.

“Mae’n bwysig egluro mai dwy a dim ond dwy ddyfais ffrwydrol ganfuwyd ddoe,” meddai David Patrick.

“Nid oedd unrhyw bomiau eraill heb ffrwydro. Ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw ddyfeisiau eraill.”

Enwi bachgen 8 mlwydd oed

Yn y cyfamser mae enw’r bachgen 8 mlwydd oed, a gafodd ei ladd yn dilyn  y ddau ffrwydrad ger llinell derfyn y marathon neithiwr, wedi cael ei gyhoeddi gan rhai ffynonellau newyddion.

Cafodd Martin Richard o Dorchester, yn Boston, ei ladd wrth iddo ddisgwyl gyda’i fam a’i chwaer am ei dad i orffen y ras. Mae cannwyll wedi ei osod ger cartref y teulu ac mae’r gair “Heddwch” wedi cael ei ‘sgrifennu mewn sialc o flaen y tŷ.

Rhedwr o Gaerdydd

Fe ddigwyddodd y ffrwydradau ger llinell derfyn y ras 26.2 milltir tua phedair awr ar ôl i’r ras ddechrau. Mae’r marathon yn denu 23,000 o gystadleuwyr a 500,000 o wylwyr.

Ymysg y rhedwyr oedd Owain Griffiths o Gaerdydd oedd wedi teithio i Boston gyda phedwar arall o Gymru.

Wrth siarad â’r BBC, dywedodd Owain Griffiths, 37, o ardal Cyncoed yng Nghaerdydd: “”Ro’n i hanner milltir i ffwrdd o’r llinell derfyn pan ffrwydrodd y bomiau.

“Roedd ’na ddim byd ond teimlad o ddryswch llwyr a sioc.”

Fe fydd yn dychwelyd i Gymru heno.

Bydd trefniadau diogelwch ar gyfer  Marathon Llundain ddydd Sul yn cael eu hadolygu yn dilyn y ffrwydradau ond mynnodd y Gweinidog Chwaraeon, Hugh Robertson , ei fod yn “gwbl hyderus” y gallai’r digwyddiad yn Llundain gael ei gadw’n ddiogel.