Margaret Thatcher
Mae S4C wedi cael ei chyhuddo o wneud “pwynt gwleidyddol” drwy beidio darlledu angladd Margaret Thatcher yn fyw yfory.

Bydd y sianel – gafodd ei sefydlu gan lywodraeth Thatcher – yn darlledu rhaglenni Cyw i blant yn ystod yr angladd gyda phytiau newyddion yn ystod y dydd a fydd yn edrych yn ôl ar yr angladd.

Ond mae AS Ceidwadol Mynwy, David Davies, yn anfodlon.

“Datganiad gwleidyddol yw hwn. Yn amlwg nid cefnogwyr y Ceidwadwyr yw’r mwyafrif o’r rheiny sy’n rhedeg S4C,” meddai.

“Maen nhw wedi gadael i’w tueddiadau gwleidyddol lywio’u synnwyr fel darlledwyr.

“Mae’n siomedig iawn. Mae’n ymddangos eu bod nhw wedi anghofio mai Mrs Thatcher sefydlodd S4C a’i bod hi wedi bod yn Brif Weinidog dros y Deyrnas Gyfunol gyfan, oedd yn cynnwys Cymru.”

Penderfyniad golygyddol

Enillodd S4C wobrau am ei darllediad byw o ddiwrnod angladd y seren rygbi a’r darlledwr Ray Gravell yn 2007 ond ni fydd angladd Margaret Thatcher yn cael ei darlledu’n fyw.

Dywedodd Dafydd Rhys, cyfarwyddwr cynnwys S4C: “Gan fod y gwasanaeth angladdol yn cael ei dangos yn fyw ar sianeli eraill roedd teimlad y byddai’r gynulleidfa yn cael ei gwasanaethu’n well y tro yma drwy ddangos rhaglen newyddion arbennig amser cinio a fydd yn edrych yn ôl ar yr achlysur.

“Mae gan S4C brotocol sy’n cael ei ddilyn ar achlysur marwolaeth aelodau o’r teulu brenhinol neu bobol amlwg eraill.

“Mae’n cynnwys yr hyblygrwydd i ddarlledu angladdau yn fyw yn ôl penderfyniadau golygyddol y pryd.”

Mae BBC1 yn darlledu tair awr o’r angladd yn ddi-dor tra bod ITV1 yn cynnwys darllediadau ohono fel rhan o raglen This Morning.

Teyrnged yn y Cynulliad

Mae cyfle gan Aelodau Cynulliad dalu teyrnged i Margaret Thatcher cyn cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw am 1.30.

Ond mae dau AC o Blaid Cymru – Dafydd Elis-Thomas a Simon Thomas – wedi dweud na fyddan nhw’n bresennol.