Fe fydd prisiau petrol yn rhatach heddiw wrth i bedair o’r prif archfarchnadoedd ostwng eu prisiau.

Daw’r gostyngiad ar ôl i’r archfarchnadoedd ostwng pris disel wythnos ddiwethaf.

Asda oedd y gyntaf i gyhoeddi y byddai’n gostwng pris petrol o 2 geiniog y litr.

Fe fydd pris petrol Sainsbury’s a Tesco hefyd yn gostwng o 2c y litr.

Mae Morrisons wedi cyhoeddi y bydd gostyngiad o 3c y litr mewn pris petrol a 1c y litr o bris disel.

Dywedodd llywydd yr AA Edmund King y bydd gyrwyr yn croesawu’r gostyngiad wedi gaeaf “caled, gwlyb a drud.”