Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn damwain angheuol ar yr A4233 rhwng y Porth a Phontygwaith yng Nghwm Rhondda ddydd Iau diwethaf.

Bu farw gyrrwr car BMW Z3 coch a fu mewn gwrthdrawiad a Ford Focus du am 5.40yb ar ddydd Iau, 11 Ebrill.

Roedd Ian Mitchell, 71 oed, o Bontygwaith, wedi marw yn y fan a’r lle.

Cafodd gyrrwr y car arall, dyn 28 oed sy’n byw’n lleol, ei gludo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg gydag anafiadau difrifol i’w goes. Mae’n parhau yn yr ysbyty.

Mae gwraig Ian Mitchell, Monica, wedi rhoi teyrnged iddo  gan ddweud ei fod yn “ŵr, tad ac ewythr ffyddlon” ac y bydd bwlch mawr ar ei ôl.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu a welodd y ceir yn cael eu gyrru cyn y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.