Mae’r isafswm cyflog yn cynyddu 12c o fis Hydref ymlaen.

Cyhoeddodd Llywodraeth Prydain mai £6.31 fydd yr isafswm i oedolion, £5.03 i bobol 18-20 oed, a £3.72 i bobol 16-17 oed.

Gwrthododd Gweinidogion argymhelliad gan y Comisiwn Cyflogau Isel i rewi’r cyfraddau presennol.

Roedd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi disgrifio’r argymhelliad gan y Comisiwn fel “ymosodiad arall eto fyth ar y sawl sydd â’r lleiaf ganddynt.”

Cyflog Byw

Mae’r gyfradd newydd yn cyfateb yn nes at y Cyflog Byw gwirfoddol sydd yn £7.45, neu’n £8.55 yn Llundain.

Dywedodd Rhys Moore, cyfarwyddwr Sefydliad Cyflog Byw, ei fod yn croesawu’r newydd heddiw.

“Mae’n bwysig cael gwaelod isafswm statudol a sicrhau nad oes neb yn disgyn yn is,” meddai.

“Ond mae hefyd yn bwysig i gael rhywbeth mwy uchelgeisiol, a dyna ble mae’r Cyflog Byw yn ddefnyddiol. Mae’r Cyflog Byw yn gyfradd wirfoddol y mae cyflogwyr yn ymrwymo i’w dalu.”