Bridget James yn Aberystwyth
Mae mam o Geredigion a redodd 13 hanner marathon mewn 13 diwrnod er budd elusen ei merch hi wedi dweud mai’r peth anoddaf oedd gorfod codi bob bore i ail-adrodd y rhedeg.

Dywedodd Bridget James o Aberystwyth fod ei phengliniau hi’n “stiff” ar ôl ei champ, ond nad oedd hi’n teimlo’n rhy ddrwg.

“Rwy’n edrych ymlaen nawr at wneud y pethe rwy wedi methu â gwneud dros y pedwar mis diwethaf,” meddai.

Hyd yma mae her Bridget James – 13 milltir bob 13 ras dros 13 diwrnod – wedi codi dros £7,000 tuag at Apêl Elain, sy’n codi arian i unedau ysbytai. Mae gan Elain, sy’n dair blwydd oed, gyflwr ar ei chalon ac mae hi wedi gorfod cael sawl llawdriniaeth ers ei genedigaeth ym mis Mawrth 2010.


Bridget gyda'i gŵr Gareth a'i merch Elain
Ystwytho’r coesau

Roedd Bridget James yn rhedeg yn gyson cyn yr her ond dywedodd ei bod hi wedi bod yn ymarfer ers pedwar mis cyn dechrau ar yr 13 rhediad 13.1m. Roedd hi’n cadw ar gyflymder araf ond cyson meddai, ond doedd hynny ddim yn lleihau’r boen y bore trannoeth.

“Ro’n i’n gorfod stretsho llwyth bob bore achos bod y coesau mor stiff,” meddai.

Ymunodd yr athletwr paralympaidd Mark Colbourne, a’r gyflwynwraig a’r anturiaethwraig Lowri Morgan, gyda Bridget James ar gymal yng Nghaerdydd. Rhedodd Bridget hefyd yn ardal Aberystwyth, yn Llanelli ac ar Lôn Eifion yng Ngwynedd.

Mae ei gŵr hi, Gareth James, yn mynd i geisio cwblhau her gorfforol er budd Apêl Elain pan fydd yn seiclo i Fryste ac yn ôl mewn tri diwrnod.

Mae modd cyfrannu tuag at Apêl Elain trwy fynd ar wefan yr elusen: http://www.apelelain.com/cy/