Caerdydd 3–0 Nottingham Forest

Mae Caerdydd o fewn trwch blewyn i’r Uwch Gynghrair ar ôl trechu Nottingham Forest yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn.

Mae’r fuddugoliaeth o 3-0 ynghyd â buddugoliaeth Peterborough yn erbyn Watford yn rhoi Caerdydd ddeuddeg pwynt yn glir o’r trydydd safle yn y Bencampwriaeth gyda dim ond pedair gêm ar ôl.

Aeth Caerdydd ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf pan beniodd Heidar Helguson gic rydd Craig Bellamy heibio i Karl Darlow yn y gôl i Forest.

A gwnaethpwyd tasg Caerdydd fymryn yn haws dri munud cyn yr egwyl pan dderbyniodd Darius Henderson gerdyn coch am ddefnyddio’i fraich yn erbyn Helguson.

Yn dilyn hanner cyntaf prysur, fe gafodd Helguson ei eilyddio ar yr egwyl, gyda Rudy Gestede yn dod ar y cae i greu cryn argraff yn yr ail hanner.

Peniodd y Ffrancwr ail Caerdydd o groesiad Andrew Taylor ar yr awr cyn sicrhau’r tri phwynt gyda pheniad arall o groesiad Bellamy bum munud yn ddiweddarach.

Tair gôl a thri phwynt i Gaerdydd felly ond dim byd i Watford yn Peterborough felly deuddeg pwynt o fantais i’r Adar Gleision gyda dim ond pedair gêm i fynd. Mae eu lle yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf fwy neu lai yn ddiogel felly ac fe fydd pwynt gartref yn erbyn Charlton nos Fawrth yn ddigon i gadarnhau hynny.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, McNaughton, Taylor, Turner, Barnett, Kim Bo-Kyung, Gunnarsson, Mutch (Wittingham 87’), Smith (Noone 74′), Helguson (Gestede 46′), Bellamy

Goliau: Helguson 26’, Gestede 60’, 66’

Cerdyn Melyn: Mutch 45’

.

Nottingham Forest

Tîm: Darlow, Halford (Collins 49′), Ward, Jara, Guedioura (Moussi 74′), Cohen, McGugan, Lansbury, Majewski (Tudgay 46′), Henderson, Blackstock

Cardiau Melyn: Halford 25’, Jara 36’, Blackstock 59’, Guedioura 59’, Moussi 85’

Cerdyn Coch: Henderson 42’

.

Torf: 26,588