Gleision 28–13 Zebre

Ennill fu hanes y Gleision wrth i Zebre ymweld â Pharc yr Arfau yn y RaboDirect Pro12 brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Rhys Patchell a Gavin Evans gais yr un yn yr hanner cyntaf cyn i Jamie Roberts ychwanegu trydydd wedi’r egwyl yn ei gêm gartref olaf i’r rhanbarth.

Maswr yr ymwelwyr, Daniel Halangahu, agorodd y sgorio gyda chic gosb wedi dim ond tri munud ond buan iawn yr unionodd Leigh Halfpenny bethau i’r tîm cartref.

Yna, gyda deunaw munud ar y cloc, fe ddaeth y cais agoriadol i’r maswr, Rhys Patchell, ac roedd gan y Gleision ddeg pwynt o fantais yn dilyn trosiad a chic gosb arall gan Halfpenny.

Cyfnewidiodd Halengahu a Halfpenny gic gosb arall yr un wedi hynny cyn i Gavin Evans groesi am ail gais i’r Gleision, 21-6 i’r Cymry yn dilyn cais y capten.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i Zebre wrth iddynt orfod gorffen yr hanner cyntaf a dechrau’r ail gyda phedwar dyn ar ddeg yn dilyn cerdyn melyn i’r asgellwr, Leonardo Sarto.

Wnaeth y Gleision ddim manteisio ar y fantais honno serch hynny a bu rhaid aros tan saith munud o’r diwedd am y sgôr nesaf pan ffarweliodd Roberts â Pharc yr Arfau gyda chais.

Roedd digon o amser ar ôl i’r eilydd, Filippo Cristiano, groesi i Zebre ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi i’r Eidalwyr.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Gleision dros Connacht i’r wythfed safle yn nhabl y Pro12.

.

Gleision

Ceisiau: Rhys Patchell 18’, Gavin Evans 36’, Jamie Roberts 73’

Trosiadau: Leigh Halfpenny 18’, 73’

Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 11’, 23’, 33’

.

Zebre

Cais: Filippo Cristiano 79’

Trosiad: Alberto Chillion 80’

Ciciau Cosb: Daniel Halangahu 3’, 28’

Cerdyn Melyn: Leonardo Sarto 36’