Ulster 31–5 Dreigiau
Mae tymor siomedig y Dreigiau yn y RaboDirect Pro12 yn parhau yn dilyn cweir go iawn gan Ulster yn Ravenhill nos Wener.
Sicrhaodd y Gwyddelod bwynt bonws gyda phedwerydd cais yn gynnar yn yr ail hanner ac er iddynt dynnu’r droed oddi ar y sbardun wedi hynny roedd yn ganlyniad hynod siomedig i’r ymwelwyr o Gymry.
Hanner Cyntaf
Arhosodd hi’n ddi sgôr trwy gydol y chwarter cyntaf cyn i Tommy Bowe agor y sgorio wedi 24 munud. Bylchodd Nick Williams o fôn y sgrym cyn i’r asgellwr, Bowe, sgorio yn ei ymddangosiad cyntaf yn dilyn cyfnod hir allan gydag anaf.
Anfonwyd maswr y Dreigiau i’r gell gosb ddeg munud cyn yr egwyl a manteisiodd Ulster yn llawn gyda chic gosb o droed Ruan Pienaar a dau drosgais arall.
Croesodd un canolwr, Stuart Olding, i ddechrau bum munud cyn yr egwyl cyn i’r canolwr arall, Darren Cave, groesi ychydig funudau’n ddiweddarach. Ychwanegodd Pienaar ddau drosiad wrth i’r tîm cartref fynd ar y blaen o 24-0 ar yr egwyl.
Ail Hanner
Pum munud yn unig o’r ail hanner oedd wedi mynd pan groesodd y mewnwr, Paul Marshall, am y pedwerydd ac roedd y pwynt bonws a’r fuddugoliaeth yn ddiogel hyd yn oed cyn i Pienaar ychwanegu’r trosiad.
Fe sgoriodd Tom Prydie gais cysur hwyr i’r Dreigiau ddeg munud o’r diwedd ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi.
Mae’r canlyniad yn codi Ulster yn ôl i frig y Pro12 ond yn cadw’r Dreigiau’n ail o’r gwaelod yn yr unfed safle ar ddeg, a gyda dim ond dwy gêm ar ôl mae’n sicr bellach mai yn y safle hwnnw y byddant yn gorffen y tymor hefyd.
.
Ulster
Ceisiau: Tommy Bowe 24’, Stuart Olding 34’, Darren Cave 37’, Paul Marshall 45’
Trosiadau: Ruan Pienaar 25’, 36’, 39’ 46’
Cic Gosb: Ruan Pienaar 29’
.
Dreigiau
Cais: Tom Prydie 70’
Cerdyn Melyn: Dan Evans 29’