George North
Mae’r Sgarlets wedi cadarnhau fod George North yn ymuno gyda Seintiau Northampton ar ddiwedd y tymor yma.
Mae’r asgellwr 20 oed wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda chlwb Franklin Gardens fydd yn cwmpasu Cwpan y Byd 2015. Roedd ganddo flwyddyn yn weddill ar ei gytundeb ar Barc y Sgarlets ond mae’r rhanbarth wedi ei ryddhau yn gynnar, yn gyfnewid am ffi gan Northampton.
Dywedodd Prif Weithredwr y Sgarlets, Mark Davies:
“Rydym ni’n amlwg yn siomedig tu hwnt i golli chwaraewr o safon George, ond yn gwerthfawrogi fod yr hyn mae wedi ei gyflawni mewn cyfnod byr wedi denu sylw mawr a byddai unrhyw glwb yn Ewrop yn dymuno ei gael.
“Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn anodd o achos y pwysau sylweddol ar George, y rheiny sy’n agos ato ac ar y Sgarlets. Rydym ni’n grediniol fod ein polisi o breifatrwydd i unigolion yn un cywir a chymwys i’w ddilyn bob adeg.”
Roedd Undeb Rygbi Cymru wedi cyhuddo’r Sgarlets o geisio gwerthu George North i dimau yn Ffrainc, heb roi gwybod i’r chwaraewr. Cododd hyn wrychyn y Sgarlets ac arweiniodd at rwyg pellach rhwng y rhanbarthau a’r undeb.
Ganed yn Lloegr, gwnaed yng Nghymru
Mae Northampton Saints wedi canmol y Sgarlets am eu gwaith wrth ddatblygu George North, a gafodd ei eni yn King’s Lynn, ei fagu ar Ynys Môn, ac a aeth i Goleg Llanymddyfri er mwyn datblygu ei yrfa rygbi yn academi’r Sgarlets.
Mae wedi ymddangos 41 o weithiau dros y Sgarlets gan sgorio 16 cais, gan gynnwys dau yn ei gêm gyntaf dros y rhanbarth yn Treviso yn 2010.
Mae tair gêm gartref yn weddill gan y Sgarlets yn eu hymgais i orffen ym mhedwar olaf y Pro12 felly gall North ychwanegu at eu nifer o geisiau cyn anelu am Northampton.