Satdiwm Liberty
Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cyhoeddi elw o £15.9 miliwn ar gyfer y chwe mis hyd at ddiwedd mis Tachwedd 2012.
Roedd trosiant y clwb, ac eithrio trosglwyddiadau chwaraewyr, i fyny 11.5% i £28.5 miliwn yn ystod y chwe mis.
Mae’n debyg bod £20.4 miliwn o elw cyn treth, a bod gwerthu Joe Allen i Lerpwl a Scott Sinclair i Manchester City wedi cyfrannu’n sylweddol at y swm hwnnw.
Gwnaeth yr Elyrch elw o £6.5 miliwn yn ystod y chwe mis cyfatebol y llynedd.
Cafodd cyllideb o £5.5 miliwn ei neilltuo er mwyn datblygu cyfleusterau newydd yng Nglandŵr, ac mae’r safle hwnnw bellach wedi agor.
Ac mae’r gwaith ar safle Prifysgol Abertawe yn Fairwood eisoes ar y gweill.
Mae disgwyl i’r gwaith o ehangu Stadiwm Liberty ddechrau’r tymor nesaf, gyda’r Elyrch yn debygol iawn o aros yn yr Uwch Gynghrair am dymor arall.
Cyfarwyddwyr
Ond ar ôl i’r ffigurau gael eu cyhoeddi, mae papur newydd The Guardian wedi cwestiynu cyfarwyddwyr y clwb am benderfynu rhannu £2 filiwn o elw rhyngddyn nhw.
Heddiw, dywedodd y papur fod y cadeirydd Huw Jenkins wedi dweud bod “y £2 filiwn yn gwobrwyo’r perchnogion yn gyfiawn” am eu bod nhw wedi gweithio heb gyflog yn ystod y broses o ail-adeiladu’r clwb yn dilyn rhai blynyddoedd o ansefydlogrwydd ariannol.
Dywedodd y Guardian: “Mewn gêm sy’n ymgyfarwyddo â diwylliant newydd, lle nad yw perchnogion clybiau’n ‘ddeiliaid’ ond yn cael eu hysgogi gan wneud elw iddyn nhw eu hunain, mae Abertawe wedi sefyll allan fel eithriad hyd yn hyn”.
Gofynnodd Golwg360 am sylw gan yr Elyrch, ond doedd neb ar gael.