Mae cyn-bêl droediwr Newcastle, Nile Ranger wedi cael gorchymyn cymunedol o 12 mis ar ôl i Lys Ynadon Newcastle ei ganfod yn euog o dynnu gwallt ei gariad.
Cyfaddefodd ei fod e wedi ymosod ar Shakira Bicar y tu allan i adeilad Gate yn y ddinas ar Fawrth 13.
Dywedodd tystion bod y pâr wedi ffraeo yn y stryd cyn yr ymosodiad.
Roedd Shakira Bicar wedi cicio coes Ranger cyn iddo afael yn ei gwallt.
Cafodd Ranger ei ryddhau gan y clwb yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau oddi ar y cae yn ystod y misoedd diwethaf.
Mae disgwyl iddo ddychwelyd i’r byd pêl-droed yn yr haf os bydd e wedi dod o hyd i glwb newydd.
Bydd rhaid i Ranger gwblhau 120 awr o waith di-dâl, ac fe fydd dan oruchwyliaeth am naw mis.
Cynigiodd dalu costau o £85, a £60 i Shakira Bicar.