Mae un o faswyr tîm rhyngwladol yr Eidal wedi arwyddo i’r Dreigiau ar gyfer y tymor nesaf.
Mae Kris Burton, 32, yn enedigol o Awstralia ac wedi ennill 21 cap dros yr Azzurri. Mae’n un o bedwar sy’n ymuno â’r tîm o Went.
Un arall yw’r ail-reng Martin Muller, 25, sy’n chwarae gyda’r Cheetahs yn y Super 15 ac sydd wedi cynrychioli De Affrica dan 21.
Mae wythwr rhyngwladol Ffiji, Netani Talei, 30, yn ymuno o glwb Caeredin, tra bod prop 23 oed o’r Ariannin, Francisco Chaparro, yn ymuno o Stade Francais.
Chwilio am fwy o chwaraewyr
Dywedodd prif hyfforddwr y Dreigiau, Darren Edwards:
“Mae unrhyw dîm sydd wedi chwarae yn erbyn Kris yn gwybod pa mor ddylanwadol mae e’n gallu bod gyda’i gicio at y pyst a’i chwarae tactegol.
“Ar y cyd gyda recriwtio Richie Rees mae gyda ni gymysgedd o haneri ifanc a phrofiadol.”
Dywedodd cyfarwyddwr rygbi’r Dreigiau, Robert Beale, fod y busnes “ar dir cadarn” a’u bod nhw’n parhau i chwilio am chwaraewyr i gryfhau’r garfan ar gyfer tymor 2013-14.