Mae elusen ganser heddiw’n lansio ei hysbyseb deledu Gymraeg gyntaf.

Bwriad hysbyseb Neb yn Unig gan Gymorth Canser Macmillan yw dangos i bobol sy’n byw gyda chanser yng Nghymru nad ydyn nhw’n wynebu canser ar eu pen eu hunain.

Mae’r hysbyseb yn dangos person yn cwympo am yn ôl ar ôl cael diagnosis canser ac yn cael ei ddal gan nyrs Macmillan. Bydd yn cael ei dangos ar S4C.

Lansiodd Macmillan yr hysbyseb ar ôl i’w ymchwil ganfod nad yw 19% o’r bobol sy’n cael diagnosis canser yng Nghymru bob blwyddyn yn cael digon o gymorth gan anwyliaid a ffrindiau wrth iddyn nhw gael triniaeth a dod drosti.

Cymorth Cymraeg

Dywedodd Susan Morris, Rheolwr Cyffredinol ar ran Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru:

“Rydyn ni eisiau sicrhau na fydd neb yn wynebu canser ar ei ben ei hun yn y dyfodol a bod pobol yn gallu cael mynediad i wybodaeth a chefnogaeth yn eu mamiaith lle bo hynny’n bosib.”

“Rydym yn amcangyfrif y bydd nifer y bobol a gaiff ddiagnosis canser yng Nghymru yn codi o 120,000 i 240,000 erbyn 2030, felly mae’n rhaid i ni adael i bobol wybod ein bod ni yma i gynnig cymorth.”

Mae elusen Macmillan yn cynnig cymorth i bobol drwy gyfrwng y Gymraeg yn eu Canolfannau Gwybodaeth a Chymorth yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd, Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Gwynedd.

Mae gan yr elusen 10 weithiwr proffesiynol Macmillan, gan gynnwys nyrs arbenigol canser, dietegydd a chynghorydd, sy’n rhoi cymorth yn Gymraeg i bobol sydd wedi eu heffeithio gan ganser.

I gael gwybodaeth a chymorth ffoniwch Llinell Gymorth Macmillan ar 0808 808 00 00 neu ewch i wefan Macmillan
.