Lindsay Sandiford
Mae llys yn Indonesia wedi gwrthod apêl gan ddynes o Brydain sydd wedi ei dedfrydu i farwolaeth am smyglo cocên gwerth £1.6 miliwn i Bali.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Uchel Lys yn Bali heddiw bod y llys wedi gwrthod apel Lindsay June Sandiford, 56, o Cheltenham yn Sir Gaerloyw.

Ychwanegodd y llefarydd bod gan Sandiford 14 diwrnod i wneud apêl i’r Goruchaf Lys.

Cafodd Sandiford ei harestio ym mis Mai’r llynedd ar ôl i 8.4 pwys (3.8kg) o gocên gael ei ddarganfod yn ei bag ym maes awyr Bali.

Ym mis Ionawr cafodd ei dedfrydu i farwolaeth.

Cafodd pedwar diffynnydd arall – 3 o Brydain ac un o India – eu dedfrydu i garchar am gyfnodau rhwng blwyddyn a chwe blynedd.