Mae Cyngor Sir Powys wedi dweud bod rhaid i ffermwyr roi gwybod iddyn nhw os ydyn nhw’n bwriadu claddu gwartheg.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddechrau’r wythnos y byddai hawl gan ffermwyr i gladdu anifeiliaid os nad oedd modd i’r bobol sy’n casglu’r cyrff gyrraedd y ffermydd.

Hawliau cyfyng sydd gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ôl cyfraith Ewrop i alluogi ffermwyr i gladdu anifeiliaid.

Mae’r hawliau presennol yn para saith diwrnod, ac fe fydd Llywodraeth Cymru’n adolygu’r mesur ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

Mae ffermwyr wedi cael eu hannog i wneud popeth o fewn eu gallu i gael gwared ar y cyrff.

Yn yr achosion lle bydd rhaid claddu’r anifeiliaid ar ffermydd, fe fydd rhaid i’r ffermwyr brofi nad oedd modd i’r bobol ddod i gasglu’r cyrff.

Bydd rhaid nodi’r claddedigaethau mewn llyfr cofnodion arbennig, gan nodi union leoliad y cyrff.