Mae seiclwr enwog gafodd ei wahardd am oes ar ôl sgandal cyffuriau, wedi penderfynu peidio â chymryd rhan mewn cystadleuaeth nofio dros y penwythnos.

Roedd disgwyl i Lance Armstrong gymryd rhan yng nghystadleuaeth nofio’r US Masters yn Austin, Texas.

Bu i gorff llywodraethu sy’n gyfrifol am nofio wrthwynebu ei fwriad i ddychwelyd i fyd y campau, ond doedd ganddyn nhw ddim grym i’w atal rhag cystadlu yn yr US Masters.

Collodd Armstrong bob un o’i saith medal Tour de France yn dilyn y sgandal cyffuriau, er iddo wadu’r honiadau am fisoedd lawer cyn cael ei wahardd.

Yn y pen draw, cyfaddefodd ar raglen Oprah Winfrey ei fod e wedi cymryd cyffuriau er mwyn gwella’i berfformiad.

Gwrthod Lance

Dywedodd llefarydd ar ran clwb Longhorn Aquatics, sy’n cynnal y digwyddiad: “Cofrestrodd Lance Armstrong, sy’n aelod o Glwb Athletau West Hills, i gymryd rhan yn y digwyddiad a chafodd ei dderbyn yn unol â pholisi Nofio US Masters.

“Heddiw, cawsom wybod na fydd Mr Armstrong yn cystadlu, yn dilyn cais gan y Ffederasiwn Nofio Cenedlaethol gerbron corff US Masters Swimming i wrthod ei gais.”

Er ei fod e wedi’i wahardd am oes, roedd disgwyl y câi gystadlu yn y gystadleuaeth am ei bod hi y tu allan i reolaeth y corff llywodraethu.

Ond roedd hi’n ymddangos y bore yma nad yw hynny’n wir.

Roedd disgwyl iddo gystadlu yn y ras 1,650 llath dull rhydd, y 500 llath dull rhydd a’r 1,000 llath dull rhydd.