Jonathan Hiles - dyfarniad o ladd anghyfreithlon
Mae cwest wedi dyfarnu bod llanc 18 oed o Gaerdydd wedi cael ei ladd yn anghyfreithlon yng Ngwlad Groeg yn 2007.

Fe fu farw Jonathan Hiles ar ôl cael ei daro a chwympo oddi ar lwyfan mewn clwb nos yn Zante.

Roedd Andrew Symeou, 25 oed, o Lundain, wedi cael ei gyhuddo o ddynladdiad ond fe’i cafwyd yn ddi-euog yn 2011.

Dywedodd crwner y cwest yng Nghaerdydd heddiw, Mary Hassel nad oedd hi’n gwybod pwy laddodd Jonathan Hiles, ond “nad Andrew Symeou oedd y person hwnnw”.

Ymosodiad

Roedd Jonathan Hiles wedi bod yn dathlu ei ben-blwydd gyda’i ffrindiau pan ymosodwyd arno fe yn ystod ffrwgwd. Cafodd ei daro ar ei foch ar ôl cael ei wahanu oddi wrth weddill y grŵp.

Roedd rhai o’i ffrindiau wedi dweud eu bod nhw’n sicr mai Andrew Symeou oedd wedi ymosod arno. Ond yn y cwest heddiw, lle daeth wyneb yn wyneb â thad Jonathan Hiles, mynnodd Andrew Symeou nad oedd yn y clwb nos ar y pryd.

A dywedodd cyfaill iddo, Christopher Kyriacou, wrth y cwest fod yr heddlu wedi ei guro a’i orfodi i roi tystiolaeth a oedd yn awgrymu mai ar Andrew Symoeou oedd y bai am farwolaeth Jonathan Hiles.

Ar ddiwedd y cwest, dywedodd Andrew Symeou bod y crwner wedi gwneud y penderfyniad iawn, a’i fod e nawr yn gallu byw gweddill ei fywyd.