Dyffryn Clwyd dan eira bythefnos yn ôl
Mae arbenigwyr wedi dweud y bydd hi’n brafiach dros y penwythnos hwn, yn dilyn y mis Mawrth oeraf ers dros 50 mlynedd.

Gallai’r tymheredd yn rhannau helaeth o Brydain gyrraedd 13 gradd selsiws, er ei bod hi’n dal i fwrw eira yn Llundain.

Ond daeth rhybudd i ddisgwyl rhagor o law erbyn dydd Llun.

Dywedodd llefarydd ar ran Meteogroup bod arwyddion o dywydd gwell i ddod ac y bydd hi “ychydig yn fwynach” erbyn wythnos nesaf.

“Ar hyn o bryd, mae’r tymheredd yn cyrraedd yn nes at y cyfartaledd ond dydy hi’n sicr ddim yn dwym.

“Y tymheredd ar gyfartaledd yw oddeutu 13C ac mae yna arwyddion o hynny yr wythnos nesaf.”

Y tymheredd uchaf ym Mhrydain heddiw yw 10C, a hynny yng Ngogledd Iwerddon.

Fis Ebrill diwethaf, roedd yna hyd at 25cm o eira.