Mae rhai o drigolion Cwm Tawe yn poeni y bydd datblygu gwaith glo brig uwchben eu pentrefi yn arwain at “Aberfan arall.”

Yn ôl pobl leol yn Ystalyfera, Godre’r Graig a Phant Teg mae’r tir yn rhy ansefydlog.

“Y sbardun oedd y tirlithriad yn Pant Teg pan oedd yn rhaid i nifer o bobol adael eu tai dros y Nadolig a bu’n rhaid cau’r hewl drwy’r pentre,” meddai Emyr Wyn Williams, myfyriwr yng Ngholeg Castell Nedd a llefarydd ar ran grŵp gweithredu TEGWCH.

“Mae’r bryniau o’n cwmpas ni’n llawn hen byllau glo ac mae cannoedd o dwneli yn rhedeg drwyddyn nhw. Mae’n siŵr bod yr ardal i gyd fel rhidyll.”

Yn ôl y cwmni sydd wedi gwneud cais i gloddio yn Allt y Grug, Western Carbons o Dŷ-croes, fe fydd y gwaith glo yn gaeth i reolau iechyd a diogelwch ac yn darparu swyddi yn lleol. Mae bwriad i greu 12 o swyddi newydd yn y gwaith ac yn ôl Jeff McEvoy o Western Carbons mae nifer o gyn-lowyr pwll glo preifat Aberpergwm, a gaeodd yn ddiweddar, wedi bod yn holi am waith eisoes.

Rhagor yng nghylchgrawn Golwg wythnos yma