Fe fydd newyddiadurwyr a staff technegol y BBC yn cynnal streic 12 awr heddiw mewn anghydfod ynglŷn â swyddi, pwysau gwaith a honiadau o fwlio.
Bydd y streic gan aelodau Undeb y Newyddiadurwyr (NUJ) a Bectu, sy’n cynrychioli staff technegol, yn cychwyn am hanner dydd.
Dywed yr undebau y bydd y streic yn debygol o amharu ar raglenni radio a theledu, gan gynnwys bwletinau newyddion.
Mae’r undebau’n protestio yn erbyn y cynllun Gosod Safon yn Gyntaf (Delivering Quality First) a fydd yn arwain at golli 2,000 o swyddi.
Mae’r undebau yn galw am ohirio diswyddiadau gorfodol am chwe mis er mwyn i drafodaethau gael eu cynnal gyda’r Cyfarwyddwr Cyffredinol newydd.