Mae canolfannau preswyl yr Urdd wedi derbyn cyllid o £620,000 gan Lywodraeth Cymru, er mwyn ceisio annog plant a phobol ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol.

Daeth y cyhoeddiad heddiw gan y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg, Leighton Andrews, yn ystod cynhadledd ‘Hunaniaeith’ sy’n trafod dyfodol cymunedau Cymraeg.

Caiff yr arian ei ddefnyddio i adnewyddu cyfleusterau gwersylloedd yr Urdd yn Llangrannog a Glan Llyn.

Er mwyn y plant

Dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Efa Gruffudd Jones: “Rydyn ni’n falch iawn o’r buddsoddiad hwn, ac yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am sicrhau ein bod ni’n gallu parhau i ddatblygu ein canolfannau preswyl.

“Mae ein canolfannau’n cynnig profiadau ffantastig i blant a phobl ifanc, ac yn llefydd gwych i ddod â’r iaith yn fyw”.

Ychwanegodd Leighton Andrews: “Un o brif negeseuon canlyniadau Cyfrifiad 2011 oedd mai yn nwylo ein plant a phobol ifanc y mae dyfodol yr iaith Gymraeg.

“Rydyn ni’n gwybod bod nifer y rhieni sy’n dewis anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg yn cynyddu.

“Mae’n rhaid i ni sicrhau eu bod nhw’n cael digon o gyfleoedd i ddefnyddio’u Cymraeg y tu allan i ddrysau’r ysgol ac mewn sefyllfaoedd cymdeithasol.

“Mae hyn yn wir am y rhai sy’n derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Saesneg ac sydd angen y cyfle i ymarfer eu sgiliau ieithyddol a defnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r dosbarth.

“Mae canolfannau’r Urdd yn cynnig yr union gyfle ac rwy’n falch ein bod ni’n gallu’u cefnogi trwy roi cyllid o dros £620,000 i sicrhau y bydd pobl ifanc yn parhau i fwynhau’r canolfannau poblogaidd hyn ac yn defnyddio’u Cymraeg wrth ymgymryd â gweithgareddau hamdden a hefyd yn gymdeithasol