Farmbox Meats yn Llandre
Mae safle prosesu cig yng Ngheredigion gafodd ei gau dros-dro yn dilyn ymchwiliad i gig ceffyl bellach yn cael masnachu eto.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi rhoi hawl amodol i Farmbox Meats yn Llandre fasnachu tra bod y cwmni’n cwrdd â gofynion. Rhybuddiodd llefarydd ar ran yr Asiantaeth Safonau Bwyd:

“Ni fyddwn yn oedi cyn tynnu’r gymeradwyaeth yn ôl os oes digon o dystiolaeth nad yw’n cwrdd â’r holl ofynion sydd ar gwmnïau bwyd.

“Mae’r gymeradwyaeth amodol yn dod i ben ar Ebrill 5 2013 a bydd penderfyniad yn cael ei wneud bryd hynny ar b’un ai i roi cymeradwyaeth lawn i’r cwmni fasnachu.”

Roedd cyfarwyddwr Farmbox Meats, Dafydd Raw-Rees yn un o dri gafodd ei arestio fis diwethaf ar amheuaeth o dwyll yn ymwneud â chig ceffyl.

Un arall oedd Peter Boddy o Orllewin Efrog, a chafodd gwaharddiad ar ei ladd-dy yntau yn Todmorden ei godi wythnos ddiwethaf.