Mae Heddlu’r Gogledd wedi cyhoeddi enwau’r ddau berson gafodd eu lladd mewn gwrthdrawiad rhwng cerddwr a beic modur yn Amlwch, Ynys Môn ddydd Sadwrn.

Bu farw George Albert Pugh, 78 oed, o ardal Cerrigman yn Amlwch ar ôl iddo fod mewn gwrthdrawiad a beic modur ar yr A5025.

Roedd gyrrwr y beic modur, James Christopher Shaw, 37, o Nebo yn Amlwch hefyd wedi ei ladd yn y gwrthdrawiad.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad tua 3.30yh ar bnawn dydd Sadwrn, 16 Mawrth. Mae’r heddlu’n apelio o’r newydd am wybodaeth gan unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.