Joshua Reece Davies
Mae dyn 54 mlwydd oed wedi ei gyhuddo o lofruddio ei fab yn Llanrhymni yng Nghaerdydd.
Cafodd Neil John Davies ei gadw yn y ddalfa gan Lys Ynadon Caerdydd y prynhawn ma yn dilyn marwolaeth Joshua Reece Davies, 24, dros y penwythnos.
Cafodd yr heddlu a pharafeddygon eu galw i ddigwyddiad mewn eiddo yn Cranleigh Rise, Llanrhymni am 1yb fore Sul. Cafodd Joshua Davies ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ond fe fu farw rai oriau yn ddiweddarach.
Mae disgwyl i Neil Davies ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher.
Dywedodd teulu Joshua Reece Davies mewn teyrnged heddiw: “Roedd Joshua yn fab, brawd ac ŵyr cariadus a bydd colled enfawr ar ei ôl. Mae’r teulu yn gofyn am breifatrwydd ar hyn o bryd i alaru am eu colled. ”
Mae ystafell ymchwilio wedi ei sefydlu yng Ngorsaf Heddlu Canolog Caerdydd a dywedodd y Ditectif Arolygydd Tudor Thomas o Heddlu De Cymru: “Hoffwn ddiolch i’r gymuned leol am eu cefnogaeth yn ystod yr ymchwiliad hwn.
“Er bod dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth, mae ein hymholiadau yn parhau.
“Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai fod yn berthnasol, neu oedd efallai yng nghyffiniau Cranleigh Rise yn ystod oriau mân fore dydd Sul, gysylltu â’r ystafell ymchwilio.”
Dylai’r rhai sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu De Cymru ar 01656 655555 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.