Bydd tîm rygbi dan 20 Cymru yn gobeithio cyflawni’r Gamp Lawn yn erbyn Lloegr ar Barc Eirias, Bae Colwyn heno. Ar ôl ennill tair gêm oddi cartref bydd bechgyn Danny Wilson yn dychwelyd i Barc Eirias i geisio maeddu’r Hen Elyn.
Wrth geisio adeiladu carfan ar gyfer Cwpan y Byd yn yr haf mae Danny Wilson wedi gwneud pedwar newid i’r tîm a gurodd Yr Alban y penwythnos diwethaf.
Mae Jack Dixon yn dechrau ei gêm gyntaf yn y canol gyda Cory Allen, ac mae Ashley Evans yn dod nôl ar yr asgell chwith yn lle Aaron Warren. Bydd Nicky Smith ac Elliot Dee yn cael eu cyfle i ddechrau yn y rheng flaen.
Carfan efo dyfnder – pwysig
‘‘Ein nod yng Nghwpan y Byd yw cyrraedd y rownd gyn-derfynol ac er mwyn gwneud hynny mae’n rhaid cael carfan gref. Mae gyda ni ddyfnder da yn y garfan hon a digon o gystadleuaeth am le yn y tîm,’’ meddai Danny Wilson.
‘‘Yr ydym wedi cael tair buddugoliaeth dda oddi cartref yn dilyn buddugoliaeth gartref yn erbyn Iwerddon yn ystod penwythnos cyntaf y bencampwriaeth. Yr oedd yr amgylchiadau o ran tywydd yn Ffrainc a’r Eidal yn ei gwneud yn anodd iawn i ni chwarae rygbi agored, ond fe wnaethom ddangos pa mor beryglus y gallwn fod wrth cael chwe chais yn erbyn yr Alan,’’ ychwanegodd.