Meri Huws
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi gwrthod datgelu cynnwys adroddiad ar y diwydiant cyfieithu i’r corff sy’n cynrychioli gweithwyr yn y maes.
Yn ôl cyn-Weinidog Diwylliant Llywodraeth Cymru, Rhodri Glyn Thomas AC, dylai Meri Huws wneud hynny o ran “cyfiawnder naturiol” a thegwch.
Mae cylchgrawn Golwg wedi datgelu bod Meri Huws wedi gwrthod cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (CCC) i gael gweld ffrwyth ymchwil ymgynghorydd allanol i’r dull o reoleiddio cyfieithu.
Mae’r CCC yn siomedig bod y Comisiynydd yn ystyried dileu grant blynyddol o £97,269 i’r corff, ac yn haeru nad oes digon o drafod wedi bod. Maen nhw’n teimlo bod hynny o drafod sydd wedi digwydd yn annheg gan nad ydyn nhw wedi cael gweld copi o adroddiad Wyn Mears.
Roedd Bwrdd yr Iaith yn pwyso i ddileu nawdd cyhoeddus i’r CCC, ac eisiau gweld y cyfieithwyr yn talu am y corff fel mae cyfreithwyr a meddygon yn talu am gyrff tebyg. Bellach mae Meri Huws am weld y CCC yn sefyll ar ei thraed ei hun ac yn rheoleiddiwr ar y diwydiant, yn hytrach na chadw’i rôl bresennol yn hyfforddi ac arholi darpar gyfieithwyr.
Ond mi fyddai yna oblygiadau ariannol i aelodau cyffredin CCC, ac fe all y ffi ymaelodi godi o £120 i £500.
Rhagor yng nghylchgrawn Golwg wythnos yma