Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru wedi galw ar y Canghellor i gyhoeddi ei fwriad i gyflwyno polisi ar isafbris alcohol yn y Gyllideb ddydd Mercher nesaf, neu drosglwyddo’r grym i wneud penderfyniadau ar y mater i Fae Caerdydd.
Mae Hywel Williams AS wedi mynegi ei siom yn sgil yr awgrymiadau bod Llywodraeth y DU yn bwriadu gwneud tro pedol ynglŷn â’r polisi.
Mae nifer o weinidogion y Cabinet – gan gynnwys Theresa May, Andrew Lansley a Michael Gove – wedi mynegi amheuon am y polisi ac mae ‘na ddarogan y bydd y cynlluniau yn cael eu gollwng am y tro.
‘Potensial i achub bywydau’
Dywedodd Hywel Williams: “Mae’n siomedig gweld arwyddion fod y Llywodraeth yn ystyried cael gwared ar y polisi hwn sy’n meddu ar y potensial i achub bywydau ac arian. Mae’r gweinidogion sy’n mynegi gwrthwynebiad wedi troi hyn o fod yn fater polisi i fod yn fater gwleidyddol – cam hynod o anghyfrifol.
“Mae gor-yfed yn broblem ddifrifol ledled y DU ac mae’n hen bryd i wleidyddion a deddfwyr ddilyn arweiniad llywodraeth yr SNP yn yr Alban a’r polisi clir sydd wedi’i amlinellu gan Blaid Cymru.”
‘Anwybyddu rhybuddion arbenigwyr’
Ychwanegodd yr AS: “Byddai cyflwyno polisi isafbris alcohol yn targedu elfennau mwyaf niweidiol y farchnad alcohol ac yn annog pobl i ddychwelyd i’w tafarndai lleol i gefnogi busnesau bychan yn eu hardaloedd a rhoi stop ar fonopoli’r archfarchnad.
“Unwaith eto gwelwn y Glymblaid yn anwybyddu rhybuddion arbenigwyr ac ymchwilwyr iechyd sydd wedi amlygu buddiannau’r polisi dro ar ôl tro – yn bennaf, gwella iechyd cyhoeddus a rhoi cymorth i’r gwasanaethau iechyd sydd dan bwysau enfawr ar y funud.”
“Wrth i’r Canghellor gyhoeddi’r Gyllideb ddydd Mercher nesaf, mae’n hanfodol ei fod yn anwybyddu’r cecru o fewn i blaid a chyhoeddi bwriad i gyflwyno’r polisi hwn.
“Os na fydd y Canghellor yn defnyddio’r cyfle hwn, yna dylid trosglwyddo’r grym i wneud penderfyniadau ar y mater hwn o San Steffan i Fae Caerdydd fel y gall pobl Cymru elwa o’r polisi blaengar hwn.”