Chris Coleman
Mae rheolwr tîm Cymru, Chris Coleman wedi cyhoeddi ei garfan ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Yr Alban a Chroatia.

Mae’r amddiffynnwr Adam Matthews allan o’r garfan ar gyfer y gêm yn erbyn Yr Alban ym Mharc Hampden wedi’i anafu, ond mae Joe Allen wedi’i gynnwys er gwaethaf anaf i’w ysgwydd.

Dywedodd Coleman y gallai Matthews ddychwelyd ar gyfer yr ornest yn erbyn Croatia yn Stadiwm Liberty ar Fawrth 26.

Cadarnhaodd Coleman y bydd rhaid i Allen gael llawdriniaeth yn dilyn y ddwy gêm, ond bod Lerpwl yn hapus iddo gael ei gynnwys yn y garfan.

Mae yna hwb arall i Gymru wrth i James Collins ddychwelyd i’r amddiffyn.

Cafodd ei anfon o’r cae yn yr ornest yn erbyn Gwlad Belg ac yna cafodd ei anafu.

Dewis annisgwyl

Ond does dim lle i’r cefnwr chwith, Darcy Blake wrth i Coleman ddweud bod angen mwy o amser arno i frwydro am ei le yn nhîm Crystal Palace.

Mae Chris Gunter, Ashley Williams, Gareth Bale a Sam Vokes un garden felen i ffwrdd o gael eu gwahardd.

Un o’r chwaraewyr ifanc sydd wedi’i gynnwys yw chwaraewr canol cae Crystal Palace, Jonathan Williams.

Mae’r dewis ychydig yn annisgwyl, ond dywedodd Coleman ei fod yn llawn haeddu ei le.

“Dydyn ni ddim yn mynd i’r Alban am ddiwrnod allan. Rydyn ni am ennill pwyntiau. Petai Jonathan ddim yn ddigon da, fyddai e ddim yn y garfan.

“Dwi erioed wedi bod ynghlwm wrth gêm sydd ddim yn bwysig. Croatia yw un o’r timau cryfaf yn y grŵp, ynghyd â Gwlad Belg.”

Gareth Bale

Wrth drafod un o sêr y garfan, Gareth Bale, wfftiodd Coleman y sylwadau a wnaeth cyn-chwaraewr Lloegr, Chris Waddle.

Dywedodd Waddle yn gynharach yn yr wythnos na fyddai Bale fyth yn chwarae yng Nghwpan y Byd, ond dywedodd Coleman bod “chwarae dros Gymru yn bwysig i Bale – beth bynnag yw’r gêm”.

Bydd Cymru’n herio’r Alban ym Mharc Hampden ar Fawrth 22, a Chroatia yn Stadiwm Liberty ar Fawrth 26.

Cymru: Myhill, Price, Fôn Williams; Davies, Collins, Gunter, Lynch, Richards, Ricketts, Ashley Williams; Allen, Collison, King, Ledley, Ramsey, Vaughan, Jonathan Williams; Bale, Bellamy, Church, Morison, Robson-Kanu, Vokes

Cymru dan 21 (v Moldova, Parc y Scarlets, Mawrth 22): Roberts, Ward, Alfei, Freeman, Evans, Meades, Tancock, Walsh, Bodin, Hewitt, Huws, Isgrove, Lawrence, Lucas, Burns, Cassidy, Dawson, Ogleby

Stori: Alun Rhys Chivers