Caerdydd 1–1 Caerlŷr

Roedd angen gôl hwyr gan yr eilydd, Rudy Gestede, ar Gaerdydd i achub pwynt yn y Bencampwriaeth yn erbyn Caerlŷr yn Stadiwm y Ddinas nos Fawrth.

Rhoddodd Michael Keane yr ymwelwyr ar y blaen ddeunaw munud o’r diwedd ond llwyddodd Gestede i sicrhau pwynt gyda gôl yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Roedd Caerdydd yn siomedig iawn mewn hanner cyntaf di sgôr ac er eu bod fymryn yn well wedi’r egwyl, yr ymwelwyr a ddaeth agosaf at agor y sgorio pan fu rhaid i David Marshall wneud arbediad da i atal Chris Wood.

Ac roedd hi’n ymddangos fod rhediad gwael Caerdydd yn mynd i barhau pan beniodd Keane Caerlŷr ar y blaen o gic gornel Sean St Ledger ddeunaw munud o’r diwedd.

Ond er nad oedd yr Adar Gleision ar eu gorau fe lwyddodd y tîm cartref i bwyso yn y munudau olaf ac fe dalodd hynny ar ei ganfed dri munud dros y naw deg pan beniodd y Ffrancwr, Gestede, heibio i Kasper Schmeichel yn y gôl.

Mae’r pwynt yn rhoi pedwar pwynt o fantais i Gaerdydd dros Hull ar frig y Bencampwriaeth ac mae ganddynt un gêm wrth gefn o hyd.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Taylor, Hudson (McNaughton 46′), Connolly, Nugent, Whittingham, Conway (Gestede 70′), Noone (Bellamy 46′), Gunnarsson, Smith, Campbell

Gôl: Gestede

Cardiau Melyn: Noone 27’, B. Nugent 66’

.

Caerlŷr

Tîm: Schmeichel, Morgan, St Ledger, Keane, Drinkwater, King, Dyer, Wellens (Kane 63′), Schlupp, Nugent (Vardy 81′), Wood (Waghorn 89′)

Gôl: Keane 72’

Cardiau Melyn: D. Nugent 11’, St Ledger 20’, Keane 80’

.

Torf: 23,231